Mae gan adeilad Peak yng Nghrucywel stiwdio hyfryd sy’n hygyrch, golau ac â digon o le ynddi; mae’n mesur o ddeutu 12 m x 6 m, ac yn ddelfrydol ar gyfer gweithdai, partïon neu gyfarfodydd. Rydym ddeng munud o dro o ganol trefn Crucywel. Mae gennym hefyd swyddfa fechan ar gael ar gyfer cyfarfodydd, sy’n mesur 3 x 4m.
Yn gynwysedig mae defnydd o’n cegin llawn offer, yn ogystal â wi-fi ymwelwyr rhad ac am ddim a pharcio ar y safle ar gyfer hyd at 6 car. Mae parcio pellach ar gael o fewn 2 funud o dro i ffwrdd o’r adeilad.
Drws nesaf i’r brif stiwdio, mae gennym hefyd ystafell wlyb sydd â sinc ar gyfer gweithgareddau celf blêr megis paentio a chrochenwaith ac amrywiaeth eang o offer paentio a chrochenwaith arbenigol, yn eu plith olwyn grochenwaith ac odyn. Yn ogystal medrwn drefnu bod artist ar gael er mwyn hwyluso ystod eang o weithgareddau creadigol yn arbennig ar gyfer eich digwyddiad.
Gellir darparu lluniaeth am bris bychan, gyda manylion cinio ar gael dim ond i chi holi. Am ragor o wybodaeth, dyfynbrisiau ac er mwyn cadarnhau argaeledd, cysylltwch os gwelwch yn dda â
Rachel Dunlop, Rheolwr Estyn Allan a chyfranogi: info@peak.cymru / 01873 811579
Mae tîm Peak yn edrych ymlaen at gael eich croesawu chi.