Justine Wheatley, Prif weithredwr
Justine yw Prif Weithredwr Peak. Mae hi’n gyfrifol am arwain, datblygu a rheoli Peak, gan osod ei gyfeiriad strategol ochr yn ochr â’r Bwrdd. Mae Justine yn hanesydd diwylliannol gyda MA mewn astudiaethau Celtaidd-Rufeinig a BA mewn hanes. Mae hi’n berson proffesiynol ym maes rheoli’r celfyddydau ac yn gyfrifydd siartredig wedi ei chymhwyso o fod wedi gweithio yn y gorffennol gyda Deloitte UK. Mae hi wedi gweithio gyda Peak ers 2003 a cyn hynny cafodd yrfa o bron i 20 mlynedd yn y sectorau masnachol a gwirfoddol.
Cyswllt: justine@peak.cymru
Rebecca Spooner, Cyfarwyddwr Creadigol
Mae Rebecca wedi gweithio ar gyfer Peak ers 2011, gan ddod yn Gyfarwyddwr Creadigol yn 2016. Hi sy’n gyfrifol am arwain a chynllunio rhaglen greadigol Peak, ac am sicrhau bod ein gwaith i gyd yn gyson â’n huchelgais a gwerthoedd ein Polisi Artistig. Mae gan Rebecca BA dosbarth cyntaf ac MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf a Chynllunio Caerdydd ac yn artist a oedd yn arddangos ei gwaith am dros ddegawd, gan arbenigo mewn gosodiadau ffilm a ffotograffiaeth. Rebecca yw Cymrawd Clore Cymru 2017/18
Cyswllt: rebecca@peak.cymru
Rachel Dunlop, Rheolwr Estyn Allan a Chyfranogi
Ymunodd Rachel a thîm y staff ym mis Mawrth 2017, a hi sy’n gyfrifol am ein holl waith estyn allan, yn cynnwys rhaglen y stiwdio yn Peak a’n rhaglen Plant a Phobl Ifanc yn ein hadeilad ac yn y gymuned. Mae ei swydd yn cael ei ran-ariannu gan Elusen Henry Smith er mwyn galluogi rhai sy’n byw dan anfantais i gael mynediad i’r celfyddydau. Mae gan Rachel BA dosbarth cyntaf ac MA mewn Celfyddyd Gain gydag arbenigedd mewn paentio oddi wrth Brifysgol Cymru, Aberystwyth ac mae wedi rheoli amrywiol brosiectau cymunedol a chelf weledol ledled canolbarth Cymru.
Cyswllt: rachel@peak.cymru
Emma Beynon, Rheolwr Caban Sgriblio
Emma sy’n arwain ein prosiect a ariennir gan Blant Mewn Angen, Caban Sgriblio, prosiect Celf a Diwylliant er lles i blant a phob ifanc rhwng 8 ac 18 mlwydd oed, sy’n defnyddio ysgrifennu creadigol a llunio ffilmiau. Yn awdur ac athrawes, bu i Emma sefydlu prosiect Write Team yn y gorffennol ar gyfer Gwyliau Caerfaddon, prosiect ysgrifennu creadigol blaengar sydd â’r nod o feithrin hyder disgyblion. Mae ysgrifennu teithio Emma wedi ei gyhoeddi yn y Marine Quarterly a’r Yachting Monthly. Mae yn ysgrifennu nofel yn seiliedig ar gyfer anturiaethau yn hwylio yn Svalbard. Mae ei hysgrifennu addysgiadol yn cynnwys penodau yn ‘Making Poetry Happen’ (Bloomsbury: 2015).
Cyswllt: emma@peak.cymru
Seren Fenoulhet, Cydlynudd Prosiect
Ymunodd Seren a tîm Peak yn Rhagfyr 2017 fel Cydlynudd Prosiect, wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc trwy sefydliadau fel y British Film Institute, Operasonic a Ffotogallery. Mae Seren yn gweithio ar ddau prosiect ar gyfer pobl ifanc yn ein rhaglen cyfranogiad – prosiect ‘Caban Crefft’ yn Y Fenni sydd wedi’u ariannu gan yr Health Lottery, ac ‘Illumine’ prosiect hyfforddi celfyddydau digidol yn seiliedig yn Aberhonddu, gyda chefnogaeth gan Cyngor Sir Powys ac Arwain. Mae gan Seren BA yn Theatr a Celfyddydau Weledol o Prifysgol Brighton a mae hi’n astudio MA yn Dylunio ar gyfer Perfformio yn Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru.
Cyswllt: seren@peak.cymru
Uschi Turoczy, Cydlynudd Prosiect
Ymunodd Uschi a thîm y staff fel Cydlynydd prosiect ym mis Ebrill 2019 ar ôl hwyluso gweithdai Caban Sgriblio, ein prosiect Ysgrifennu Creadigol, ers 2017. Mae Uschi yn cynnal darpariaeth Aberhonddu fel rhan o’r prosiect a ariennir gan BBC Plant mewn Angen, gan weithio gyda phobl ifanc er mwyn datblygu hyder, hunanfynegiant a chysylltu â chyfleoedd creadigol. Mae ganddi raddau BA ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol a dros 8 mlynedd o brofiad proffesiynol ym maes addysg.
Cyswllt: uschi@peak.cymru
Lauren Heckler, Cydlynudd Prosiect
Ymunodd Lauren a thîm y staff ym mis Ebrill 2019 fel Cydlynydd Prosiect. Mae’n gweithio ar ddau brosiect cyfranogi Caban ar gyfer pobl ifanc – rhaglen gelfyddydau digidol ar gyfer menywod a merched a ariennir gan y Gronfa Treth Tampon a’r Loteri Iechyd a wireddir trwy sesiynau celf a chrefft cyfoes yn ysgol Brenin Harri’r VIIIed. Mae Lauren yn artist gweledol yn gweithio mewn nifer o gyfryngau ac yn ymateb i gyd-destunau yn ogystal â thrwy ymyriadau mewn gofodau bob dydd. Mae’n cynrychioli hanner Site Sit, sef gweithredu cyfredol gyda’r artist Sophie Lindsey. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar gomisiwn celf cyhoeddus yn y Bontfaen, ac yn cynhyrchu prosiect symudol sy’n ymateb i’w gyd-destun yn Sweden sydd â’r enw Restless Practice. Graddiodd Lauren o gwrs Gweithredu Celfyddyd Gain Allweddol ym Mhrifysgol Brighton yn 2014.
Cyswllt: lauren@peak.cymru