Mae Land Acts yn cyflwyno gwaith pum artist, sy’n archwilio grym y tir a’r profiad gwledig, cyfoes ar y cyd: Stefhan Caddick, Rebecca Chesney, Morag Colquhoun, Ella Gibbs ac Owen Griffiths.
27 Gorffenaf – 12 Hydref
Arddangosfa yn cyflwynir ar y cyd â Peak
Oriel Myrddin, Caerfyrddin
Mae’r artistiaid dan sylw yn gweithio’n agos gydag unigolion a chymunedau drwy eu harferion celfyddydol i ystyried y cysylltiad a’r potensial rhwng defnydd tir ac economïau lleol, dosbarth, newid yn yr hinsawdd, addysg a chynhyrchu bwyd.
Mae’r arddangosfa hon a’r rhaglen o sgyrsiau a gweithgareddau yn ystyried rhai o’r prosiectau hyn ac yn cychwyn sgyrsiau newydd am rôl yr artist wrth ein helpu ni i gyd i adfyfyrio ar ein perthynas â’r tir a sut y gallwn ei hailddychmygu ar gyfer y dyfodol.
Llun: Floodstick gan Rebecca Chesney