Dosbarthiadau Byr a Chyrsiau

Loading Events

« Pob digwyddiad

‘Sgrifennu Bywyd gyda Renée Stanton

Chwefror 25 @ 2:00 pm - 4:00 pm

|Cwrs sy’n cael ei ail-adrodd (Gwelwch y cyfan)

An event every week that begins at 2:00pm on Dydd Mawrth, repeating until March 31, 2020

£60

‘Sgrifennu Bywyd gyda Renée Stanton

 

Mae’r Ysgrifennu Bywyd yn rhoi’r cyfle i bobl ysgrifennu am eu bywydau eu hunain a pheidio â mynd ar goll yng nghors y stori, cymeriadau, dechrau a diwedd. Mae gan bawb hanesion i’w hadrodd, yn deillio o’u profiadau eu hunain ac mae Ysgrifennu Bywyd yn medru rhoi llais iddynt. Mae gennym oll brofiadau gwahanol ym mywyd a dyw bywyd neb mor ddi-gynwrf nad oes modd ysgrifennu amdano.

Bydd y pedair sesiwn yma yn darparu cyfleoedd i archwilio pynciau newydd i ysgrifennu amdanynt. Byddwn yn myfyrio ar ysgrifennu drosom ein hunain ac ysgrifennu er mwyn denu a chadw diddordeb pobl eraill; dod o hyd i leisiau gwahanol i ysgrifennu amdanynt; meddwl ynghylch safbwyntiau; dod o hyd i ffyrdd o drefnu ein hysgrifennu; arbrofi gydag arddull a ffurfiau gwahanol.

Bydd y sesiynau hyn yn adeiladu ar rai blaenorol ond yn hygyrch i newydd-ddyfodiaid hefyd. Yn ogystal, byddwn yn darllen ambell enghraifft o Ysgrifennu Bywyd gyda’n gilydd (barddoniaeth yn ogystal â rhyddiaith) ac yn rhannu ein hymatebion meddyliol ac emosiynol.

 

Dyddiau Mawrth 2 – 4pm
25 Chwefror – 31 Mawrth
£60

Manylion

Dyddiad:
Chwefror 25
Amser:
2:00 pm - 4:00 pm
Cost:
£60
Categori’r cwrs:
Event Tags:
, , ,

Trefnydd

Rachel Dunlop
Ffôn:
01873 811579

Lleoliad

Peak
The Old School, Brecon Road
Crickhowell, Powys NP8 1DG United Kingdom
+ Google Map
Ffôn:
01873 811579

Tocynnau

5 available
‘Sgrifennu Bywyd gyda Renée Stanton£60.00

Please fill in all required fields