Mae Hinterlands yn brosiect dan arweiniad Peak ac Ymddiriedolaeth y Camlesi a’r Afonydd (Canal & River Trust C&RT), gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gwahodd artistiaid a chymunedau i archwilio camlas Brycheiniog a Sir Fynwy a’i weld fel lle ar gyfer creadigrwydd, bioamrywiaeth a lles.
Mae’r prosiect wedi ei leoli ym mhen Pont-y-pŵl camlas Brycheiniog a Sir Fynwy yn sir Torfaen.
- Cynhaliwyd Cam I Hinterlands yn ystod Gwanwyn/Haf 2018. Medrwch ddarllen mwy am y gweithgareddau cyntaf ym Mhont-y-pŵl a gweld yr adborth oddi wrth bobl leol.
- Bydd Cam II y prosiect yn cael ei gynnal rhwng Gwanwyn 2019 – Hydref 2020 a bydd yn cynnwys dwy raglen: Ahoi! Beth sy’n tyfu yma? a Byti Perfformio.
“Rydym mor ffodus o gael y gamlas mor agos. Rydym eisoes yn ei defnyddio ar gyfer mynd am dro ac i wneud gweithgareddau ond mae’r prosiect hwn wedi amlygu’r potensial aruthrol sydd gan y gofod o ran lles, dysgu a breuddwydio.”
~ Un o drigolion Pont-y-pŵl, 2018
Ahoi! Beth sy’n tyfu yma?
Bydd Ahoi! Beth sy’n tyfu yma? yn defnyddio hanes y gamlas yn ei swyddogaeth o gario cynnyrch amaethyddol. Bydd yr artistiaid Ella Gibbs ac Owen Griffiths yn gwneud ymchwil ynghylch y cynhyrchu bwyd sy’n digwydd ar lannau’r gamlas ar ei hyd, gan ddefnyddio Junction Cottage ym Masn Pantymoel fel canolfan waith.
Byti Perfformio
Bydd Byti Perfformio yn adeiladu ar waith nifer o artistiaid – Tina Pasotra & Edwin Burdis, Stefhan Caddick, Sam Hasler a Mr & Mrs Clark a fu’n gweithio gyda grwpiau cymunedol yn ystod Cam 1 er mwyn ymateb i ran Torfaen o gamlas Brycheiniog a Sir Fynwy trwy sain, berfformio a’r gair ysgrifenedig. Yn cynnwys llwyfan byti sy’n gweithio ac yn cael ei dynnu gan gwch cul (ynteu geffyl) bydd y cwch yn cael ei drawsnewid i fod yn ofod awyr agored ar gyfer perfformiadau, darlleniadau, cerddoriaeth a sgyrsiau – gan ddod â gweithgarwch i nifer o fannau ar hyd y llwybr tywys.
Pont-y-Ddôl
Mae’r Artist Rebecca Chesney yn bwriadu gweithredu comisiwn gwreiddio newydd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Pont-y-pŵl, gan ymateb i dreftadaeth unigryw’r dref fel man geni Japanware (proses o osod wyneb lacr ar dunplat). Bydd y cynllunydd tirwedd o fri rhyngwladol Sarah Price yn gweithredu fel ymgynghorydd ar gyfer y prosiect.
Am wybodaeth bellach ynghylch Hinterlands Cymru cysylltwch â:
Melissa Appleton, Cynhyrchydd Creadigol melissa.appleton@canalrivertrust.org.uk
Dilynwch y prosiect @HinterlandsWAL