Siôn Marshall-Waters

Mae Pobl y Mynyddoedd Duon (ei enw gweithredol am y tro) yn brosiect ymchwil a datblygiad sydd ar y gweill gan y gwneuthurwr ffilmiau Siôn Marshall-Waters mewn cyd-weithrediad â’r artist Stefhan Caddick a Peak.

Gan ddefnyddio dulliau o weithio sy’n gysylltiedig â chreu ffilmiau ethnograffig, ffotograffiaeth dogfennol a thirwedd sain, mae’r prosiect yn archwilio dulliau o adleisio profiadau byw mewn bro a safbwyntiau ynghylch y fro. Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â gwahanol nodweddion yng nghyswllt cymuned, hunaniaeth a pherthyn sy’n rhan o fyw bywyd amaethyddol a gwledig yn yr oes sydd ohoni.

 

Elderly man sat in a chair

 

Mae Siôn yn gweithio’n agos gyda chymunedau ym Mhatrisio, Forest Coal Pit, Waun Fach a’r Fenni er mwyn creu cyfres o ddarluniau bach yn deillio o’r nodweddion swréal a barddonol pob dydd, sy’n rhan o fyw yn y Mynyddoedd Duon.

Bydd y cyfnod hwn o ymchwilio yn cyrraedd ei benllanw gyda dangosiadau o’r ffilm yn y Mynyddoedd Duon ac yn Nghaerdydd yn hwyr yn ystod Gwanwyn 2019.

 

Mae Siôn Marshall-Waters yn grëwr ffilmiau dogfennol ac yn ffotograffydd sydd yn byw yn ne Cymru. Graddiodd yn ddiweddar o Ganolfan Granada ar gyfer Anthropoleg Gweledol ym Mhrifysgol Manceinion, ac mae ei brosiectau yn archwilio perthynas pobl a lleoliad; sut y mae canfyddiadau o le yn cael eu creu, eu profi ac yn rhoi siâp i ymdeimlad person o’i hunaniaeth. https://sionmarshallwaters.com/ 

Ar hyn o bryd mae Siôn yn cael ei fentora gan yr artist llunio ffilm Andrew Kötting.  http://www.andrewkotting.com/  

Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru  http://www.arts.wales/

Mae Pobl y Mynyddoedd Duon (ei enw gweithredol am y tro) yn brosiect ymchwil a datblygiad sydd ar y gweill...

Darllen rhagor

Beth sydd ymlaen

Fri 22

Crochenwaith gyda Martin Craddock

Chwefror 22 @ 2:00 pm - 5:00 pm
Mar 04

Gwneud Basgedi gyda Mary Zammit

Mawrth 4 @ 10:00 am - 2:30 pm
Mar 05

Life Writing with Renée Stanton

Mawrth 5 @ 2:00 pm - 4:00 pm