Ymgynghoriaeth Celfyddyd Gyfoes
Mae Peak yn falch tu hwnt o fod yn gweithredu fel ymgynghorydd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, gan gynnig hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer adeiladau o bwysigrwydd treftadol er mwyn iddynt ddatblygu eu rhaglenni celfyddydol.
Bydd y gwaith ymgynghorol hwn yn cefnogi dulliau cynaliadwy o weithio, o ddatblygu cynulleidfaoedd a chomisiynu artistiaid fel rhan o raglen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ‘Trust New Art’, ar gyfer datblygu celfyddyd gyfoes wedi ei ysbrydoli gan leoliadau.
Trwy gydol 2019 bydd Rebecca Spooner, Cyfarwyddwr Creadigol Peak yn mentora lleoliadau amrywiol yn ardal de Cymru. Yn ystod y gwanwyn gweithiodd Rebecca gyda’r artist Owen Griffiths er mwyn hwyluso gweithdai gyda staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o Erddi Dyffryn, Dinefwr, Gardd Goedwig Colby a Thŷ Tredegar.
Bu’r gweithdai yn archwilio’r adnoddau sydd eisoes ar gael a’r amrywiol gyd-destunau y mae’r gwahanol leoliadau yn bodoli o’u mewn, yn cynnwys y storïau sydd heb eto eu hadrodd, a chyflwyno enghreifftiau ehangach o weithredu celfyddyd gyfoes gyda lleoliadau treftadaeth led-led y DU ac yn rhyngwladol.
Nod y gweithdai oedd ennyn hyder a chefnogi’r wybodaeth sydd eisoes gan staff a’u cynorthwyo i ddatblygu’r cyfleoedd unigryw sydd ar gael ganddynt ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd ac ystyried pam a sut y byddent yn dymuno gweithio gydag artistiaid.
Mae’r gweithgarwch ymgynghorol hwn yn cael ei ddarparu fel rhan o’r Memorandwm Dealltwriaeth a lofnodwyd yn ddiweddar rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Gwasanaethau Ymgynghori
Mae Peak ar gael er mwyn darparu gwasanaethau ymgynghorol ar gyfer y sectorau diwylliannol, treftadaeth ac amgylcheddol. Pe hoffech drafod eich anghenion ymgynghorol gyda Peak yna cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda Rebecca Spooner, ein Cyfarwyddwr Creadigol
rebecca@peak.cymru / 01873 811579
Lluniau gan Owen Griffiths